Cardiganshire Family
History Society

Cymdeithas Hanes
Teuluoedd Ceredigion

 

Prosiectau

Swyddog Prosiectau - Beryl Evans beryloevans@aol.com
Cysylltwch os am helpu mewn unrhyw fodd gyda un o'r brosiectau

Prosiect Mynegai Claddu Cenedlaethol (NBI)



Mae'r Mynegai Claddu Cenedlaethol (NBI) ar gyfer Cymru a Lloegr yn cael ei gydlynu gan y Ffederasiwn Cymdeithasau Hanes Teuluoedd. Y bwriad yw darparu mynegai i holl gofnodion claddu mewn cofrestri plwyf Cymraeg a Saesneg, anghydffurfiol, yr Eglwys Gatholig a mynwentydd.

Mae Cymdeithas Hanes Teuluoedd Ceredigion eisoes wedi cyfrannu dros 108,000 o gofnodion i'r prosiect pan gyhoeddwyd 2il argraffiad y CD yn 2004, yn cynnwys cofnodion claddu lan hyd ac yn cynnwys 1920.

Mae'r 3ydd argraffiad i'w gyhoeddi nes ymlaen eleni ac mae'r Gymdeithas eisioes wedi cyfrannu miloedd yn rhagor o gofnodion o 1921 ymlaen.

Mae'r gymdeithas wedi bod yn gweithio gyda findmypast.co.uk yn adysgrifio cyfrifiad 1851 ar gyfer Ceredigion. Rhoddwyd darn HO107/2481 i ni adysgrifio oedd yn cynnwys plwyfi yng Nghogledd Sir Benfro. Adysgrifiwyd y plwyfi canlynol gan y Gymdeithas a byddant yn ymddangos ar wefan findmypast yn y dyfodol.

Ceredigion

Aber-porth
Aberteifi
Blaen-porth
Llandygwydd
Llangoedmor
Llechryd
Mwnt
Tre-main
Y Ferwig

Penfro

Beifil, Y
Bridell Llandudoch
Cilgerran
Dinas
Eglwyswen
Eglwyswrw
Llandudoch
Llanfair Nant-Gwyn
Llanfihangel Penbedw
Llantwyd
Llanychlwydog
Maenordeifi
Meline
Moylgrove
Trefdraeth

Bydd adysgrifo bedyddiadau 1813-37 o cofrestri plwyf yn y Llyfrgell Genedlaethol.
 
Cyswllt cyffredinol: Menna Evans, Ysg. Anrh. Ceredigion FHS, Hyfrydle, Ffordd Ddewi, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1EU
Dylunio a datblygiad y wefan: Technoleg Taliesin Cyf.