Cardiganshire Family
History Society

Cymdeithas Hanes
Teuluoedd Ceredigion

 
Cover of the 1st Journal

Y Cylchgrawn

Cyhoeddir Cylchgrawn y Gymdeithas dair gwaith y flwyddyn yn Chwefror, Mehefin a Hydref ac yn cael ei ddanfon am ddim i aelodau.

Mae'n cynnwys newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau o ddiddordeb i aelodau, diddordebau aelodau, ynghyd ac erthyglau hirach gan aelodau ar sail eu hymchwil.

Cyhoeddwyd y Cylchgrawn cyntaf yn Chwefror 1996, ychydig o fisoedd ar ôl sefydlu'r Gymdeithas.

Yr ydym erbyn hyn wedi digido rhifynnau cynnar o'r Cylchgrawn a bydd rhai'n ar gael i'w prynu ar CD yn fuan.

Cyfrolau 1-2 (1996-2001) fydd ar y CD cyntaf. Bydd manylion pellach yn ymddangos ar y dudalen cyhoeddiadau.

Mae mynegai llawn ar gael o'r prif erthyglau, ac yr ydym wedi dethol ychydig o erthyglau fel sampl (gweler rhestr isod) i'w cyhoeddi ar y wefan.

'The family of John Hughes, Llanbadarn Fawr, 1763-1842' Helen M. Kaznowski: Chwefror 1996
'Dadcu sails out - but steams home in the end' - episodes in the life of an Aberystwyth seaman. Victor Williams: Chwefror 1996



 
Cyswllt cyffredinol: Menna Evans, Ysg. Anrh. Ceredigion FHS, Hyfrydle, Ffordd Ddewi, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1EU
Dylunio a datblygiad y wefan: Technoleg Taliesin Cyf.